Preswyliwr yn beirniadu adnewyddiad i'w gartref
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Fro Morgannwg wedi beirniadu adnewyddiad "rhyfeddol" sy'n gwneud i'w gartref edrych fel "Legoland".
Dywedodd Graham White, 76 oed, bod preswylwyr yn meddwl bod Tŷ Redlands ym Mhenarth, sy'n cynnwys 36 o fflatiau, yn edrych "yn fwy fel lle chwarae i blant na llety".
Fe gafodd waliau tu allan yr adeilad eu paentio gyda lliwiau llachar pan gafodd y fflatiau eu hadnewyddu.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn dweud bod y fflatiau wedi cael eu trawsnewid i fod yn gyfleuster "bywiog" ac "atyniadol".
'Croeso i Legoland'
Dywedodd Mr White, sydd wedi byw yn un o'r fflatiau ers tair blynedd: "Mae'n wastraff llwyr ar arian cyhoeddus. Mae'r lliwiau yn gwbl anaddas ar gyfer y bobl hŷn sy'n byw yma. Dylen nhw roi arwydd yma'n dweud 'Croeso i Legoland'."
Doedd llefarydd ar ran y cyngor ddim yn gallu cadarnhau union gost y gwaith, gafodd ei gwblhau mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd bod y fflatiau a'r ardaloedd cymunedol wedi cael eu hadnewyddu i helpu pobl hŷn a'r rheiny sy'n gadael yr ysbyty i fyw yn annibynnol.
"Rydym yn deall nad yw'r cynllun at ddant pawb, ond rydyn ni wedi clywed nifer o sylwadau positif gan breswylwyr a phobl leol, a bydd y gwelliannau pwysig i'r cyfleusterau yn helpu nifer o bobl i aros yn annibynnol am fwy o amser," meddai'r llefarydd.