BBC Cymru Fyw

Rhyddhau gyrrwr rasio wedi damwain yn yr Almaen

Published
image copyrightAFP
image captionCar Jann Mardenborough ar ôl y ddamwain ar y Nürburgring

Mae gyrrwr rasio o Gymru wedi ei ryddhau o'r ysbyty yn dilyn damwain laddodd un person yn yr Almaen ddydd Sadwrn.

Roedd Jann Mardenborough, sy'n 23 ac o Gaerdydd, yn gyrru car Nissan GTR mewn ras ar y Nürburgring pan aeth y car oddi ar y ffordd.

Cafodd un person eu lladd pan aeth y car dros y ffens ddiogelwch.

Dywedodd Nissan mewn datganiad bod Mardenborough wedi cael profion ac wedi ei ryddhau o'r ysbyty.

Cafodd dau berson arall oedd yn gwylio'r ras eu rhyddhau o'r ysbyty hefyd.

image captionAeth y car i ffwrdd o'r ffordd ar ddarn cyflym iawn o'r trac rasio
image copyrightOther
image captionMae Jann Mardenborough yn wreiddiol o Drelái

Dywedodd Nissan eu bod yn cydweithio gyda'r awdurdodau yn yr Almaen wrth iddyn nhw ymchwilio.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae pawb o Nissan yn cydymdeimlo gyda theulu'r unigolyn bu farw a'r rhai gafodd eu hanafu."

Nid oedd Mardenborough, sy'n fab i'r cyn bêl-droediwr Steve Mardenborough, wedi rasio tan 2011, pan gafodd gytundeb proffesiynol ar ôl ennill cystadleuaeth gemau cyfrifiadurol.

Straeon perthnasol

  • Gyrrwr rasio o Gymru mewn damwain angheuol