Cymru ar frig y grŵp
- Cyhoeddwyd

Israel 0-3 Cymru
Mae Cymru ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy yn Haifa.
Bu'n rhaid aros tan yr egwyl bron cyn i dîm Chris Coleman fynd ar y blaen, ac er gwaetha' doniau ymosodol Cymru, cic hir gan y golwr Wayne Hennessey arweiniodd at y gôl.
Aeth ei gic yn syth i'r cwrt cosbi cyn i Gareth Bale ei phenio ymlaen ac Aaron Ramsey'n gosod peniad arall dros ben golwr Israel i gefn y rhwyd.
Roedd hynny'n hwb, ond o fewn ychydig funud i ddechrau'r ail hanner, roedd y gêm wedi'i hennill i bob pwrpas.
Yn gyntaf fe gafodd Bale ei faglu ar ymyl cwrt cosbi Israel gan Tibi - a welodd gerdyn melyn am y drosedd - ac fe darodd Bale ei hun chwip o ergyd i gornel y rhwyd.
Cyn pen dim bron, daeth trosedd arall digon tebyg gan Tibi, gan ddenu ail gerdyn melyn a gadael Israel gyda deg dyn am weddill y gêm.
Aeth y ddwy yn dair pan redodd Ramsey i mewn i'r cwrt a rhoi pas i lwybr Bale er mwyn iddo sgorio'i ail yn y gêm a thrydedd ei wlad.
Yr unig bryderon i Gymru fydd anafiadau i Joe Ledley ac Aaron Ramsey cyn y diwedd, ond does dim gêm gan Gymru nawr tan fis Mehefin pan fydd Gwlad Belg yn ymweld â Chaerdydd mewn gêm allai bennderfynu pwy fydd yn ennill y grŵp.
Talodd Chris Coleman deyrnged i'r cefnogwyr oedd wedi teithio i Haifa ar gyfer y gêm gan ddweud:
"Efallai nad oedd llawer ohonyn nhw o gymharu a'r dorf o Israel, ond roedd eu swn i'w glywed ymhobman ac maen nhw wedi bod yn hynod o gefnogol i'r tîm ar hyd y daith... maen nhw'n anhygoel!"
Mae Cymru ar frig y grŵp gydag 11 pwynt o bum gêm, gydag Israel yn ail ar 9 pwynt o bedair gêm. Bydd Israel yn croesawu Gwlad Belg nos Fawrth gyda'r Cymru yn gobeithio am gêm gyfartal efallai?
Straeon perthnasol
- 16 Tachwedd 2014
- 13 Hydref 2014
- 10 Hydref 2014
- 9 Medi 2014