BBC Cymru Fyw

Gwaith rheilffyrdd: Llai o wasanaethau dros y penwythnos

Published
Fe all gwaith ar reilffyrdd Caerdydd a'r cymoedd achosi problemau i deithwyr dros y penwythnos.
Dywedodd Network Rail y bydd llai o wasanaethau yn cael eu cynnal ar linellau'r cymoedd ar 28 a 29 Mawrth.
Ni fydd unrhyw wasanaethau rhwng Coryton a Radur, ond fe fydd teithwyr yn cael defnyddio gwasanaethau bws gyda thocyn trên.
Mae'r holl wybodaeth am y gwasanaethau ar gael ar wefan Trenau Arriva Cymru.