Darganfod arfau a chyffuriau mewn cyrch yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae arfau, cyffuriau ac arian wedi eu cymryd gan yr heddlu mewn cyrchoedd mewn tafarn a thŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd nifer o bobl eu harestio yn y cyrchoedd gan Heddlu'r De yn ardal Treganna o'r ddinas nos Wener.
Cafodd cyffuriau dosbarth A eu darganfod yn y Canton Sports Bar ac mewn cyfeiriad arall.
Yn ogystal, daethon nhw o hyd i arfau ac arian y mae'r heddlu yn amau sy'n ymwneud a chyflenwi cyffuriau.
Dywedodd llefarydd: "Mae nifer wedi eu harestio am fod a chyffuriau yn eu meddiant a chyflenwi cyffuriau dosbarth A."