Digwyddiad Cynwyd: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Wedi digwyddiad ym mhentref Cynwyd ger Corwen ddydd Iau, mae dyn 22 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau.
Mae Ciaran Thomas Morris wedi ei gyhuddo o godi helynt (affray), difrod troseddol, bod â dryll yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn, a bygwth lladd.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno fore Gwener a chafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 10 Ebrill.
Dywedodd yn amddiffyniad na allai Mr Morris wneud cais am fechnïaeth ar hyn o bryd gan nad oedd ganddo gyfeiriad i'w roi i'r llys, ond y byddai'n cadw'r hawl i wneud cais mewn gwrandawiad pellach.
Straeon perthnasol
- 26 Mawrth 2015