Carchar am oes i lysfab am ladd y bardd Anne Jackson

Mae llysfab bardd o Sir Fynwy wedi cael ei garcharu am oes am ei llofruddio.
Fe gafodd Anne Jackson, 79 oed, a oedd yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar, ei darganfod wedi ei thrywanu yn ei brest a'i gwddf ar 1 Tachwedd 2014 yn ei thŷ ger Brynbuga.
Mae ei llysfab Timothy Jackson, 49 oed, o Sheffield, wedi cael ei orchymyn i dreulio o leiaf 19 blynedd dan glo.
Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd bod Jackson wedi llad ei lysfam gyda chyllell mewn ffrae deuluol.
Dywedodd yr erlyniad bod Jackson wedi gafael yn y gyllell yn ystod dadl gyda'i lysfam.
Yn y dyddiau cyn y llofruddiaeth roedd Jackson wedi bod yn gweiddi ar ei lysfam, a'i fod yn gymeriad blin.
Disgrifiodd dad Jackson ei fab fel cymeriad od a bwli.