Ian Watkins: Achos i'w ateb i ddau aelod o'r heddlu

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) wedi awgrymu bod gan ddau dditectif weithiodd ar ymchwiliad Ian Watkins o gam-drin plant achos i'w ateb ar gyfer camweinyddiad.
Ond dywedodd y comisiwn bod Heddlu Bedfordshire wedi llwyddo i gymryd camau yn syth i ymchwilio i Ian Watkins.
Mae'r comisiwn wedi darganfod nad oedd y ditectif-gwnstabl a'r sarsiant arolygol yn Heddlu Bedfordshire wedi symud yr ymchwiliad ymlaen yn ddigonol, ond doedd dim i awgrymu y byddai wedi bod yn bosib i'r llu rwystro unrhyw droseddu yn gynt.
Dywedwyd hefyd nad oedd y ddau wedi recordio penderfyniadau ac nad oedden nhw wedi dilyn pob ymholiad rhesymol.
Mae'r llu yn dweud y bydd y swyddogion yn cael eu delio â drwy weithrediad gan reolwyr.
Mae ymchwiliad y comisiwn i Heddlu De Cymru a Heddlu De Swydd Efrog yn parhau.
29 blynedd
Fe gafodd Ian Watkins, o Bontypridd, ei adrodd i'r awdurdodau bedair gwaith cyn iddo gael ei arestio.
Er honiadau ei fod wedi treisio plentyn, ni chafodd Watkins, 36 oed, ei gyfweld.
Fe gafodd y canwr Lostprophets ei garcharu am 29 blynedd ym mis Rhagfyr 2013 ar ôl cyfaddef i nifer o droseddau rhywiol difrifol yn ymwneud a phlant.
Fe gafodd ddwy ddynes, mamau'r plant, eu carcharu yn ogystal.