Cymeradwyo safonau Cymraeg yn 'garreg filltir bwysig'

Carwyn Jones

Mae cymeradwyo safonau'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad yn "garreg filltir bwysig i'r iaith" yn ôl y Prif Weinidog.

Cafodd y safonau, sy'n gosod y lefel o wasanaethau Cymraeg y gall y cyhoedd ddisgwyl gan sefydliadau, eu cymeradwyo gan Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Bydd y safonau yn cael eu gweithredu mewn sawl rhan, gyda'r gyfres gyntaf yn berthnasol i awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol a gweinidogion Cymru.

Mae'r cam ymlaen wedi ei groesawu can y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae hon yn garreg filltir bwysig i'r iaith.

"Nid yn unig bydd yn creu sylfaen gyfreithiol gryfach i'r iaith, ond bydd yn sicrhau sail well i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg.

'Clir ac yn gadarn'

"Rydyn ni wedi ymgynghori'n eang ar y Safonau i wneud yn siŵr eu bod yn glir ac yn gadarn a dwi wrth fy modd eu bod nhw wedi cael eu cymeradwyo heddiw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae sicrhau bod dyfodol cadarn a llewyrchus i'r iaith yn ganolog i'n strategaeth 'Iaith Fyw' a bydd y Safonau yn hollbwysig wrth annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy yn eu bywyd bob dydd."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, y byddai hi nawr yn "symud ymlaen gyda'r broses statudol...o osod y gofynion newydd ar y sefydliadau".

Ychwanegodd: "Golyga hyn bod dinasyddion Cymru gam yn nes tuag at fod â hawliau i dderbyn gwasanaethau Cymraeg gan sefydliadau."