Dileu tollau yn 'ffantasi'
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi disgrifio fel "ffantasi" y galw am doriadau pellach ar y gost o groesi pont Hafren.
Dywedodd Stephen Crabb werth raglen Sunday Politics Wales y BBC fod y toriadau gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor George Osborne yn rhai ymarferol.
Dywedodd Mr Osborne yn araith y gyllideb y byddai'r gost bresennol o £6.50 yn cael ei ostwng i £5.40 erbyn 2018.
Mae prif weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw am i reolaeth y ddwy bont Hafren gael ei ddatganoli i Fae Caerdydd, a hynny er mwyn galluogi gostyngiad pellach yn y pris.
Dywedodd Mr Crabb: "Mae'r bobl hyn sy'n dweud y byddan nhw'n lleihau'r gost ymhellach neu ei ddileu yn llwyr - maen nhw'n byw mewn byd ffantasi.
"Yn hytrach na son am doriadau ffantasi i'r tollau, rydym ni (y Ceidwadwyr) wedi dangos y gallwn ni gymryd camau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth."
Dywed Llywodraeth Lafur Cymru eu bod am i'r tollau gael eu datganoli unwaith i'r pontydd ddod i eiddo cyhoeddus yn 2018.
Dywed Plaid Cymru y byddant yn hoffi gweld gostyngiad sylweddol yn y gost, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddant yn ei d dileu yn gyfan gwbl.
Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Cymru Wales am 11:00 ddydd Sul.