Cynllun cerbydau cebl i Gaerdydd?
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Busnes Caerdydd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio system cerbydau cebl i gludo teithwyr rhwng y ddinas a Phenarth.
Maen nhw'n ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer rhwydwaith pum milltir o hyd.
Byddai'r cerbydau 'gondola' yn teithio o orsaf ganolog Caerdydd.
Dywed Nigel Roberts, cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd mai'r gobaith yw cludo 2,500 o bobl bob awr.
"Y peth gwych am Fae Caerdydd yw bod y golygfeydd yn wych o'r awyr."
Byddai'r gondolas yn mynd uwchben canol y ddinas ac yn diweddu eu taith ym Mhenarth.
Cyllideb
Yn ôl Mr Roberts byddai'r cynllun, fyddai'n costio tua £20 miliwn am bob milltir, yn cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru a'r sector preifat.
Ychwanegodd fod posibilrwydd y gallai arian ddod o 'Gytundeb y Dinasoedd' - sef y cynllun ar gyfer rhyddhau arian i 'ddinasoedd y rhanbarthau' gafodd ei gyhoeddi yn araith gyllideb y canghellor George Osborne.
"Byddai hwn yn gynllun trafnidiaeth gynaliadwy fyddai'n addas ar gyfer dinas sy'n tyfu."
Doedd Mr Roberts ddim yn gwybod pryd y byddai cynllun o'r fath yn gallu cael ei gwblhau pe bai'r freuddwyd yn cael ei wireddu.
"Byddwn yn sicr yn hoffi bod dal yn fyw i deithio ar un o'r cerbydau," meddai