Cynghorau ddim yn difa pla cartrefi oherwydd toriadau

Pla Image copyright Getty Images

Dyw dros chwarter o gynghorau Cymru ddim yn cynnig gwasanaeth difa pla i gartrefi preifat bellach.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pump o gynghorau wedi ymuno gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a phenderfynu rhoi'r gorau i'r gwasanaeth.

Mae'r cynghorau'n dweud bod rhaid iddyn nhw wneud arbedion a bod cwmniau preifat yn medru gwneud y gwaith.

Ond mae rhai'n rhybuddio na fydd pobl ar incwm isel yn medru talu yn y dyfodol a bod peryg i blant ac anifeiliaid anwes wrth bobl geisio datrys y broblem eu hunain.

Llygod mawr

Cynghorau Wrecsam a Sir Ddinbych yw'r awdurdodau lleol diweddaraf i ddod a'r gwasanaeth i ben. Nid yw cynghorau Powys, Sir Fynwy a Chasnewydd wedi cynnig y gwasanaeth ers nifer o flynyddoedd.

Cyngor Sir Caerfyrddin oedd y cyntaf yng Nghymru i beidio cynnig y gwasanaeth, a hynny yn ôl yn 2011. Mae naw cyngor bellach yn codi tâl am y gwaith - sydd yn gynnydd o chwe chyngor ers 2013.

Mae cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Chonwy yn cynnig y gwasanaeth yn rhad ac am ddim os yw achosion yn ymwneud â llygod mawr, ond yn codi tal ar y cyhoedd i ddifa mathau eraill o bla mewn cartrefi.

Peryglon posib

Mae gweithwyr iechyd yn rhybuddio am beryglon posib i blant ac anifeiliaid anwes wrth i bobl geisio ymgymryd â'r gwaith difa pla eu hunain, yn hytrach na defnyddio cwmniau difa pla preifat.

Dywedodd Julie Barratt, Cyfarwyddwraig Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol yng Nghymru: "Mae'n bwysig cofio roedd swyddogion y cyngor a gweithwyr difa pla yn weithwyr arbennigol, roedden nhw'n gwybod beth yr oedden nhw yn ei wneud, gan osod deunydd difa pla yn y mannau cywir, mewn llefydd diogel, ac yn arolygu eu gwaith yn gyson gan fynd a'r deunyddiau i ffwrdd.

"Mae na berygl gwirioneddol, os yw pobl yn cael eu gadael i fynd i'r afael a phroblem gan feddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, y byddwn yn gweld achosion o wenwyno damweiniol i blant ac anifeiliaid anwes ac mae hyn yn bryder gwirioneddol."

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o gael eu gorfodi i wneud toriadau fel yma, mae'n "bosibilrwydd real" bod "costau a phwysau ychwanegol yn cael eu creu" ar gynghorau i'r dyfodol.

Bydd cynghorau'n dal i geisio gwarchod gwasanaethau lleol, ond yn yr hinsawdd bresennol, nifer cyfyngedig o wasanaethau all yr awdurdodau lleol eu darparu mewn gwirionnedd, meddai'r gymdeithas.