Merched Moslemaidd yn gwrthwynebu eithafiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y DU
Mae merched Moslemaidd yn cynnal cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Gwener i wrthwynebu eithafiaeth a radicaliaeth Islamaidd.
Mae'n un o gyfres o ddigwyddiadau ledled y DU i gefnogi pwysigrwydd llais merched Moslemaidd mewn cymdeithas.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Inspire, grwp hawliau dynol a gwrth-eithafiaeth.
"Merched yw asgwrn cefn ein cymunedau ar flaen y gad yn erbyn y rhai sy'n radicaleiddio eraill," meddai cyfarwyddwr Inspire, Sara Khan.
Mae'r gynhadledd, Making a Stand, â'r nod o roi cyngor ymarferol i ferched ar "wrthsefyll - fel unigolion ac fel grwpiau - a chreu cymunedau sefydlog a heddychlon drwy herio eithafiaeth".