Damwain: Anafiadau difrifol

Image caption Roedd y ddamwain am 14:30

Mae dyn wedi cael anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar yn ardal Penrhyncoch ger Aberystwyth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4159 rhwng Capel Dewi a Heol Lovesgrove am 14:30.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a chafodd menyw yn yr un car ei chludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Roedd y ffordd ar gau am oriau tra bod yr heddlu'n ymchwilio.