Damwain yn ardal Felinheli
- Cyhoeddwyd

Dyma lun gan deithiwr ar yr A487 yn gynharach
Mae damwain wedi bod ar yr A487 ffordd osgoi'r Felinheli yng Ngwynedd brynhawn dydd Mercher.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw tua 15:35.
Roedd y gwasanaeth ambiwlans ar y safle, ac roedd ambiwlans awyr hefyd wedi'i alw, yn ogystal â'r gwasanaeth tân.
Roedd un car wedi troi ar ei ochr.
Roedd adroddiadau o broblemau traffig difrifol yn yr ardal wedi'r digwyddiad ond mae ffordd yr A487 bellach wedi ail-agor i'r ddau gyfeiriad.