Tour of Britain 2015 i ddechrau ym Môn
- Cyhoeddwyd

Mae Ynys Môn wedi cael ei ddewis fel y lleoliad ar gyfer cam agoriadol Tour of Britain 2015 ar 6 Medi.
Bydd beicwyr gorau'r byd yn cwblhau'r cymal o Fiwmares i Wrecsam am y tro cyntaf yn hanes diweddar y ras.
Fe fydd y daith yn gorffen yn Llundain ar 13 Medi wedi cymalau yn yr Alban, a gwahanol ardaloedd yn Lloegr.
Mae'r digwyddiad yn aml yn denu enwogion y gamp, gan gynnwys cyn-bencampwr ras ffordd y byd, Mark Cavendish.
Mae Taith Prydain yn cael ei ystyried fel prif ddigwyddiad beicio ffordd Prydain.
Mae'n rhoi cyfle i gefnogwyr y gamp weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar eu stepen drws.
Dywedodd un cynghorydd o Ynys Môn, Aled Morris Jones fod hyn yn "gamp enfawr i'r ynys".
Dywedodd: "Bydd y Tour of Britain yn rhoi cyfle i arddangos Ynys Môn a phob peth ganddi i'w gynnig i ymwelwyr a chynulleidfa fyd-eang."