Damwain: Gyrrwr mewn cyflwr difrifol iawn

Stafell reoli
Image caption Roedd y ddamwain ddifrifol am 12:55

Mae gyrrwr mewn cyflwr difrifol iawn wedi i'w lori droi drosodd ger cylchfan brynhawn Mawrth.

Roedd y ddamwain am 12.55 ar yr A4061 ym Mryn Llidiard, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y gyrrwr anafiadau difrifol i'w wyneb a thriniaeth yn y fan a'r lle cyn mynd i ambiwlans awyr ei gludo i Ysbyty Athroafaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd y ffordd ar gau am ryw bedair awr.

Dylai unrhyw dystion ffonio'r heddlu ar 02920 633438 neu 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.