Dau newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Sam Warburton yn dathlu gyda gweddill tîm Cymru wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon

Mae Warren Gatland wedi gwneud dau newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn, wrth i Rob Evans ac Aaron Jarvis ddod i'r rheng flaen.

Mae'r ddau yn cymryd llefydd Gethin Jenkins a Samson Lee gafodd eu hanafu yn y fuddugoliaeth dros Iwerddon.

Does dim lle i Scott Williams yn y 15, er iddo sgorio cais pan ddaeth i'r cae fel eilydd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Bydd Ken Owens, Rhys Gill a Scott Andrews yn dechrau ar y fainc, tra bod Gareth Davies yn cymryd lle Mike Phillips ar y fainc hefyd.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Does dim lle i Scott Williams yn y tîm er iddo sgorio cais yn erbyn Iwerddon

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn "wych" sicrhau'r fuddugoliaeth dros Iwerddon o flaen y dorf yng Nghaerdydd, a rhoi siawns i'r tîm ar ddiwrnod olaf y bencampwriaeth.

"Yn amlwg mae'n siom i Gethin [Jenkins] a Samson [Lee], ond fe wnaeth Rob [Evans] ac Aaron [Jarvis] yn dda iawn y penwythnos diwethaf ac rydyn ni'n disgwyl yr un peth ddydd Sadwrn," meddai.

"Yr her fydd mynd i'r Eidal ac ennill, a cheisio ennill o faint sylweddol, ond rydyn ni'n gwybod bod hynny'n her anodd iawn a'r peth pwysicaf fydd sicrhau'r fuddugoliaeth."

Mae Cymru yn gyfartal gydag Iwerddon a Lloegr, gyda chwe phwynt yr un, yn mynd i mewn i'r rownd olaf o gemau ddydd Sadwrn.

Mae Cymru angen buddugoliaeth fawr dros yr Eidalwyr yn Rhufain i gael unrhyw siawns o ennill y bencampwriaeth.

Lloegr sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd gyda gwahaniaeth pwyntiau o 37. Iwerddon sy'n ail gyda gwahaniaeth pwyntiau o 33, tra bod Cymru yn drydydd ar 12.

Mae Iwerddon yn chwarae'r Alban yn yr ail gêm ddydd Sadwrn cyn i Loegr a Ffrainc ddod â'r bencampwriaeth i ben yn Twickenham.

Tîm Cymru v. Yr Eidal, Stadio Olimpico, Dydd Sadwrn Mawrth 21, 12:30:

Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Luke Charteris (Racing Metro), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Rhys Gill (Saracens), Scott Andrews (Gleision), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).