Dechrau taith unigryw o amgylch Cymru

Grwp Maccy
Image caption Bydd y pedwar yn dechrau ar eu taith fore Mawrth

Mae grwp o fyfyrwyr o Aberystwyth ar fin dechrau ar daith unigryw yr wythnos hon wedi ei seilio ar rai o leoliadau mwyaf enwog yr Unol Daleithiau.

Ond nid ar draws Cefnfor Iwerydd y byddan nhw'n teithio, ond o amgylch Cymru.

Mae'r daith yn rhan o gwrs gradd meistr y pedwar ffrind, sy'n astudio'r Cyfryngau Creadigol Ymarferol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r pedwar wedi seilio eu taith ar daith Sal Paradise o nofel Jack Kerouac, 'On The Road', ac fe fyddan nhw'n ffilmio pob cam er mwyn creu cynhyrchiad arbennig.

Lleoliadau 'eiconig'

"Y bwriad gwreiddiol oedd ymweld â chartrefi ein gilydd a dangos rheiny i'n gilydd gan bod ni 'di bod yn y brifysgol 'efo'n gilydd ers pedair blynedd," meddai Alaw Rossington.

"A wedyn daeth y syniad wrth i ni drafod testunau ynglŷn â roadtrips - 'nathon ni ddarganfod 'On The Road' ac o hynny 'nathon ni ddarllen a licio'r syniad a 'da ni 'di addasu'r daith erbyn hyn."

Bydd y daith yn dechrau yn Aberystwyth ddydd Mawrth, ac fe fydd y pedwar yn teithio am ddeuddydd mewn bws mini.

Mae'r lleoliadau yng Nghymru yn cyfateb a'r lleoliadau ar daith Sal Paradise yn 'On The Road', gan gynnwys Wrecsam, sy'n cyfateb a Los Angeles, Portmeirion, sy'n cynrychioli St Louis a Felindre ym Mhowys yw San Francisco.

Dywedodd Gwion Llyr: "Be ni'n mynd i neud yw mynd o gwmpas y llefydd ma i gyd, a 'neud be o'ddon neud yn y llyfr."

Ychwanegodd Carwyn Blainey y byddai'r daith yn "trial adlewyrchu pethe ma'n neud ond hefyd cymryd mantais o rai o'r pethau sy'n eiconig yn y lleoliadau yna".

'Plethu theatr a'r cyfryngau'

Bydd y pedwar yn cynhyrchu ffilm ar eu taith, i'w defnyddio mewn cynhyrchiad ym mis Mai.

"Mi fydd yr holl archif a deunydd o'r daith yma yn mynd tuag at berfformiad byw," meddai Alaw.

"Felly fyddwn ni yn gwahodd cynulleidfa i ddod i weld be' de' ni'n ei baratoi, ond bydd mwy o wybodaeth am hynny ar ôl y Pasg, ar ôl i ni ddatblygu'r deunydd yma."

Ychwanegodd Lucy Andrews: "Mae gofyn i ni blethu theatr a'r cyfryngau i mewn i un perfformiad ar y diwedd felly de' ni gyd yn chwarae ar ein cryfderau wrth wneud y prosiect yma, de' ni'n edrych ymlaen."

Gallwch ddilyn holl hanes y daith ar flog y grwp.