Pryderon llifogydd tai Bodelwyddan

Bodelwyddan
Image caption Mae nifer o bobl yn lleol yn pryderu am effaith y datblygiad ar Fodelwyddan

Mae ymgyrchwyr yn erbyn codi dros 1,700 o dai ym Modelwyddan yn honni na chafodd eu pryderon am lifogydd yn y pentref eu cymryd o ddifri gan Gyngor Sir Dinbych.

Mae'r ymgyrchwyr yn lleisio eu pryderon ar raglen 'Manylu' ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, ond yn ôl y cyngor does dim cofnod ganddyn nhw fod llifogydd wedi bod mewn tai ym Modelwyddan, dim ond ar ffyrdd yr ardal.

Fis Ionawr fe bleidleisiodd cynghorwyr Sir Ddinbych o blaid rhoi caniatad cynllunio amlinellol i godi dros 1,700 o dai, gwesty, cartref i'r henoed, ysgol ac unedau busnes ym Modelwyddan. Gyda phoblogaeth o ddwy fil ar hyn o bryd mi fyddai hyn yn treblu maint y pentref.

Mae aelodau o'r grwp ymgyrchu lleol 'Achub Bodelwyddan' wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n profi fod tai yn y pentref wedi cael llifogydd yn y gorffennol. Er eu bod nhw wedi cael cyfle i godi eu pryderon mewn ymgynghoriad cyhoeddus, tydyn nhw ddim yn meddwl fod y gwrandawiad wedi bod yn un teg.

Image caption Elen Wyn, gohebydd Manylu, yn holi Medwen Williams a'r Parch Dafydd Roberts o Fodelwyddan

Yn ôl Medwen Williams, sy'n rhan o 'Grŵp Achub Bodelwyddan': "Ar ôl yr ymchwiliad cyntaf yn neuadd y dref yn y Rhyl, mi ddywedwyd nad oedd na ddim llifogydd wedi bod ym Modelwyddan, mi es i rownd yr archifdai a chwilio am hen bapurau newydd ac yn y blaen …a gofyn i'r cyngor plwyf am lythyrau oedd ganddyn nhw o dystiolaeth o lifogydd oedd wedi bod yn y pentref."

Fe wnaeth hi hefyd wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Gwasanaeth Tân - a chael gwybod am lifogydd yn yr ardal, yn cynnwys fferm yng nghanol y tir lle fydd y datblygiad.

Llifogydd

Dywedodd Medwen Williams: "Yn y fferm yma, yng nghanol y datblygiad roedd yna 18 modfedd o ddŵr - ac mae hon yng nganol y datblygiad - ac mae yna luniau o erddi reit ar ochr y datblygiad, ac mae'r gerddi yn llond dŵr - ac mae hyn yn digwydd bob blwyddyn, bob gaeaf."

Ychwanegodd y Parchedig Dafydd Roberts sydd hefyd wedi paratoi gwaith ymchwil ei hun: "Faswn i'n meddwl ar ol beth sydd wedi digwydd yn Rhuthun ac yn Llanelwy, fasa nhw ofn am eu bywydau bod rhywbeth fel yna eto am ddigwydd.

"Mae'n rhyfeddod gen i. Ac wedyn y llanast yn Llanelwy - codi tai ar lefydd sydd ddim yn addas o gwbwl - dydi nhw heb gymryd dim sylw ohono fo, mae nhw wedi mynd ffordd eu hunain doed a ddel a dydi o ddim bwys. Mi ryda ni'n teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael ar ochr y ffordd."

Image caption Fe fyddai tir ger Bodelwyddan yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r datblygiad

Mewn ymateb mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud eu bod wedi cynnal ymgynghoriad llawn a sawl arolwg.

"Dim pryderon"

Yn ôl David Smith sy'n gynghorydd yn ardal Rhuthun doedd gan 'Cyfoeth Naturiol Cymru' ddim pryderon sylweddol am lifogydd ym Modelwyddan:

"Does ganddyn nhw ddim pryderon - dydyn nhw ddim wedi dod a fo i ni achos pan ddaeth cynlluniau amlinellol o flaen y cyngor ym mis Ionawr, doedd neb wedi dweud bod problemau llifogydd. Os oes problemau, wrth gwrs mae'n rhaid gwneud rhywbeth amdano, ond ar hyn o bryd does na neb wedi dweud wrthym ni na chawn ni adeiladu yn y fan yma oherwydd llifogydd."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru - y corff sydd bellach yn gyfrifol am waith Asiantaeth yr Amgylchedd gynt, yn datgan fod eu cofnodion yn dangos bod dau achos o lifogydd wedi bod ym Modelwyddan, ond fod y ddau yma'n wahanol i'r rhai sydd wedi eu nodi gan y grŵp ymgyrchu.

Image caption Yr ymgynghorydd cynllunio Mark Roberts

Un sy'n meddwl mai peth da ydi'r datblygiad newydd ydi Mark Roberts, sy'n Ymgynghorydd Cynllunio ym Mae Colwyn.

Mae o'n canmol Sir Ddinbych am gymeradwyo'r cynllun: "Be ma' Sir Ddinbych wedi neud ydi defnyddio dychymyg a chael datblygiad strategol ym Modelwyddan, a dwi'n eu clodfori nhw am hynny," meddai.

"Sicrhau dyfodol" Bodelwyddan

Fel ymgynghorydd cynllunio mae ganddo brofiad helaeth o weithio ar gynlluniau datblygu lleol, ac mae o'n credu fod codi'r holl dai newydd ym Modelwyddan yn beth da. Nid lladd y gymuned meddai, ond yn hytrach sicrhau ei dyfodol:

"Ma'n rhaid i ni wneud rhywbeth i drio ysgogi y byd sydd ohoni, ac i ni fel Cymry allu cystadlu wyneb yn wyneb efo pobl mewn llefydd erill, yn enwedig dros y ffin. A ma nhw'n ei wneud o yn y de, mae genyn nhw ranbarthau dinesig rwan yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, ac mae nhw'n mynd i ehangu rheiny.

"Y broblem ydi does na' ddim byd yn y gogledd - wel ma hwn ym Modelwyddan yn gyfle i wneud hynny ac i weld be ddaw, a dwi'n gobeithio y gwneith o lwyddo."

'Manylu', Radio Cymru 12:30, Dydd Iau 12 Mawrth, ac ail-ddarllediad ddydd Sul am 17:30.

Gellir gwrando ar yr I-player hefyd.