Cynhadledd iechyd yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd

Mae cynhadledd iechyd yn y Drenewydd yn ddigwyddiad hollbwysig i wasanaethau yn y canolbarth, yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
Roedd y gweinidog yn siarad mewn cynhadledd i feddygon ac arbenigwyr sy'n ystyried problemau'r Gwasanaeth Iechyd yng nghanolbarth Cymru.
Dywedodd bod angen corff newydd i ddelio gyda'r problemau sy'n wynebu'r ardal, Cynllun Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth.
Ychwanegodd bod angen i bawb sy'n rhan o'r system ofal weithio fel un, gan anghofio am ddadlau'r gorffennol.
'Siapio'r dyfodol'
"Mae yna gyfle pwysig yma i siapio dyfodol gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru, ac mae'n gyfle i bobl leol arwain y broses - pobl sy'n byw a gweithio yma - i gynllunio ar gyfer y dyfodol," meddai Mr Drakeford.
"Dyma gyfle i ail-greu gwasanaeth fydd yn addas i amgylchiadau pobl. Os ydyn ni'n methu'r cyfle, mae'n bosib na fydd un arall yn fuan."
Daeth adolygiad annibynnol chwe mis yn ôl i'r casgliad fod pryderon cyhoeddus "anferth" am y sefyllfa.
Yn y cyfamser, mae meddygon teulu wedi rhybuddio am broblemau "dybryd" wrth geisio recriwtio a chadw meddygon yn yr ardal, yn enwedig yng nghefn gwlad.
Mae dadlau ffyrnig wedi bod am newidiadau i'r Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal ers bron i ddegawd.
Protestiadau
Cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal i wrthwynebu unrhyw doriadau i wasanaethau iechyd Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth - yr unig ysbyty o fewn dalgylch o 50 milltir.
Mae ymgyrchydd yn gyd-gadeirydd grŵp newydd fydd yn edrych ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal, ac fe fydd yn cyd-weithio gyda rheolwyr iechyd.
Jack Evershed yw cyd-gadeirydd annibynnol Grŵp Cydweithrediadol Iechyd Canolbarth Cymru ynghŷd â Dr Ruth Hall sy'n gyn-brif swyddog meddygol Cymru.
Bydd y grŵp yn dechrau gweithio gyda byrddau iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru er mwyn ceisio mynd i'r afael â nifer o argymhellion adroddiad yr economegydd Marcus Longley.