Dynes wedi marw wedi tân mewn tŷ ym Mhenarth

tan
Image caption Mae'n debyg fod y tân wedi dechrau yn yr ystafell fyw.

Mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De bod criwiau o Benarth a Chaerdydd wedi eu galw i'r tŷ ar Cedar Way, Penarth, am tua 19:20 nos Fawrth.

Mae'n debyg bod y tân wedi dechrau yn ystafell fyw'r tŷ.

Heddlu De Cymru sydd yng ngofal y digwyddiad ac mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau.