Gwasanaethau i gofio'r pedwar fu farw ar yr A470
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaethau coffa yn cael eu cynnal yn dilyn marwolaeth pedwar o bobl mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Bu farw Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price, i gyd yn 17 oed ac o'r Barri, yn y gwrthdrawiad ger y Storey Arms, Aberhonddu, yn hwyr nos Wener.
Cafodd Margaret Elizabeth Challis, 66 oed, o Ferthyr Tudful, ei lladd hefyd.
Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal yng Ngholeg Dewi Sant, Caerdydd, lle roedd Alesha yn astudio, ac un arall yng nghapel Gwasanaethau Angladd Y Fro, ar Heol Windsor.
Mae un o'r rheiny sy'n cael eu trin yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, tra bod dau arall mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd saith o fechgyn yn eu harddegau eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, ond maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Credir eu bod wedi bod yn teithio mewn confoi adeg y gwrthdrawiad.
'Wirioneddol lwcus'
Dywedodd un wnaeth oroesi'r gwrthdrawiad, Rhys Hunter, wrth BBC Cymru ei fod yn lwcus i fod yn fyw.
"Mae'n dangos gallwch golli eich bywyd mewn mater o eiliadau, a gallai ddigwydd ar unrhyw adeg," meddai.
"Rwy'n wirioneddol lwcus o ystyried yr hyn a ddigwyddodd i bobl eraill."
Dywedodd teulu Mrs Challis fod ganddi "bopeth i fyw amdano".