Damwain A470: Ymchwiliad yn parhau
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymchwiliad yn parhau yn dilyn gwrthdrawiad laddodd bedwar o bobl, a gadael tri o bobl eraill yn yr ysbyty.
Bu farw Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price, y tri yn 17 oed ac o'r Barri, yn y gwrthdrawiad ger Storey Arms, Aberhonddu, nos Wener.
Bu farw Margaret Elizabeth Challis, 66, o Ferthyr Tudful, hefyd.
Mae tri o bobl yn parhau i fod yn yr ysbyty - un mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, a dau mewn cyflwr sefydlog.
Digwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng car Volkswagon Golf gwyrdd a Volkswagon Golf du, ar yr A470 am tua 22:15 nos Wener.
Cafodd saith o ddynion ifanc - fu'n cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru yn beryglus - eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae cefnogaeth yn cael ei roi i ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, Caerdydd, yn dilyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd teulu Mrs Challis mai'r "plant o'dd ei bywyd hi".
Straeon perthnasol
- 9 Mawrth 2015
- 7 Mawrth 2015