Gwrthdrawiad bws: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Bont Llyn y Felin ym Mhenfro
Mae dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yn parhau i farwolaeth dynes 75 oed ar ôl iddi gael ei tharo gan fws ym Mhenfro.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Bont Llyn y Felin fore Sadwrn.
Cafodd y ddynes ei tharo gan fws un llawr, a chafodd ddyn 54 oed ei arestio.
Mae disgwyl i enw'r ddynes gael ei gyhoeddi yn ffurfiol yn ddiweddarach ddydd Llun.