Ymosodiad honedig: Heddlu'n ymchwilio
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu ym Mhorthcawl yn ymchwilio wedi ymosodiad honedig ym mharc carafanau Bae Trecco.
Mae dyn 18 oed wedi ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Gall unrhywun welodd rywbeth amheus yn ardal Bae Trecco dros gysylltu â'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 a nodi'r cyfeirnod 1500080214.