Gleision 18-17 Connacht
- Cyhoeddwyd

Aeth Connacht ar y blaen yn gynnar diolch i gais gan Jake Heenan a throsiad Craig Ronaldson.
Ychwanegodd Ronaldson dri phwynt arall i gyfanswm yr ymwelwyr gyda chic gosb lwyddiannus ar ôl 23 munud, cyn i Rhys Patchell wneud yr un fath i'r Gleision ddau funud yn ddiweddarach.
Yn yr ail hanner llwyddodd y Gleision i leihau mantais Connacht, a hynny wrth i Joaquin Tuculet sgorio cais.
Rhoddodd Patchell y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chic gosb ar ôl 65 munud.
Ni pharhaodd hynny'n hir, wrth i gais gan Aly Muldowney roi'r fantais yn ôl i Connacht.
Ond ym munudau olaf y gêm sgoriodd Tuculet ail gais i'r Gleision, a llwyddodd Patchell gyda'r trosiad i roi'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.