Plaid Cymru yn galw am £1.2 biliwn yn fwy y flwyddyn

Leanne Wood
Image caption Leanne Wood: "Mae Fformiwla Barnett wedi cadarnhau anfantais Cymru"

Mae Plaid Cymru yn mynnu bod Cymru'n derbyn £1.2 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn fel rhan o unrhyw drafodaethau dros glymblaid yn San Steffan yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd arweinydd y blaid Leanne Wood yn ei haraith i'r gynhadledd wanwyn yng Nghaernarfon ddydd Gwener y byddai'r arian ychwanegol yn golygu bod Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu ar yr un lefel, fesul poblogaeth, â'r Alban.

Gyda'r arolygon barn yn awgrymu bod senedd grog yn bosibilrwydd gwirioneddol, mae Plaid Cymru'n dweud y gallen nhw gael dylanwad wrth i lywodraeth gael ei llunio wedi'r etholiad.

Felly neges eu harweinydd Leanne Wood oedd: 'Gwnewch i Gymru gyfri fis Mai'.

'Adnoddau'

Ei dadl yw y gallai Plaid Cymru fod yn rhan o drafodaethau clymblaid yn San Steffan - naill ai ar ei phen ei hun neu gyda'r SNP a'r Blaid Werdd.

Ac yn y sefyllfa hynny - er yn ofalus i beidio â dweud nad ydyn nhw'n fodlon cyfaddawdu mewn trafodaethau ynglŷn â chyllid ychwanegol - ei blaenoriaeth fydd cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae arian y DU yn cael ei rannu i'r gwledydd datganoledig drwy Fformiwla Barnett, gafodd ei ddyfeisio yn y 1970au.

Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r pleidiau yn San Steffan wedi hen sefydlu anfantais gyllido Cymru.

"Dylent fod yn gallu ymrwymo i'r un cyllid y pen ar gyfer Cymru â'r Alban.

"£1.2 biliwn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a mwy o adnoddau i gryfhau rhagolygon economaidd ein gwlad a rhoi diwedd ar ddibyniaeth ariannol Cymru unwaith ac am byth."

Cronfa

Mae Plaid Cymru hefyd yn addo sefydlu cronfa o fewn y GIG i wella mynediad at feddyginiaethau newydd, dywedodd Leanne Wood.

Byddai'r blaid yn talu am y gronfa - i drin afiechydon yn cynnwys canser - drwy neilltuo'r arian a delir i'r llywodraeth o dan gytundeb ad-daliad presennol gyda chwmnïau cyffuriau.

Mae'r ad-daliad yn werth £28m ar hyn o bryd ond fe fydd yn codi yn uwch na £50m y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y byddai'r gronfa yn rhoi "terfyn ar y loteri côd post a darparu triniaethau newydd a chyffuriau sy'n cael eu profi yn glinigol i fod yn effeithiol".

Ychwanegodd y byddai'r gwasanaeth "yn gweithredu yn gyflym ac y bydd yn trin pawb yng Nghymru waeth ble maent yn byw. Gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, i bawb."

Bwriad y polisi yw osgoi sefyllfaoedd lle mae'n rhaid i gleifion droi at y sector preifat neu symud i Loegr i gael triniaeth.

'Dim refferendwm'

Yn ei haraith, cadarnhaodd Leanne Wood hefyd nad yw Plaid Cymru bellach yn cefnogi refferendwm ar ddatganoli treth incwm i Gymru.

Dywedodd wrth ymgyrchwyr y bu'r blaid yn barod i gyfaddawdu a derbyn refferendwm, ond yn awr yn dymuno bwrw ymlaen gyda datganoli treth heb bleidlais gyhoeddus.

"Ni ddylai unrhyw lywodraeth gael dewis ynghylch a ddylai fod yn atebol am ran o'r arian y mae'n ei wario," meddai.

Galwodd Ms Wood hefyd am ddyblu trethi bancwyr i £2.8bn y flwyddyn "gan fod ciwiau banciau bwyd yn tyfu o ganlyniad i gamgymeriadau bancwyr a dylen nhw gyfrannu tuag at greu cymunedau ôl-lymder".

Rhoddodd deyrnged hefyd i "ddau gawr o'r mudiad cenedlaethol", Dr Meredydd Evans a Dr John Davies, a oedd wedi gwneud "cyfraniad enfawr wrth osod sylfeini ein cenedl".

Cyntaf i'r Felin

Image caption Mae'r system Cyntaf i'r Felin yn "bydredig", medd Jonathan Edwards

Fore Gwener, dywedodd Jonathan Edwards wrth y gynhadledd bod y system etholiadol ar gyfer San Steffan yn "bwdr" ac yn cynnal rheolaeth gan Lafur a'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr : "Mae'r deuopoli yn dod i ben.

"Bydd eu sefyllfa o rym yn San Steffan ond yn cael ei chadw gan y system Cyntaf i'r Felin pydredig, sydd ddim yn gwasanaethu realiti gwleidyddiaeth aml-blaid.

"Beth bynnag yw'r canlyniad ym mis Mai, fe fydd yna argyfwng o gyfreithlondeb democrataidd".

Dywedodd ers cael ei ethol yn 2005 "yr hyn sydd wedi fy nharo fwyaf" oedd pa mor aml roedd Llafur a'r Ceidwadwyr yn cydweithio.

Tair sedd

Mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn dal tair sedd yn San Steffan, ac mae ffynonellau o fewn y blaid yn dweud eu bod hefyd yn gobeithio am ganlyniad da yn Ynys Môn a Llanelli - seddi sy'n cael eu cynrychioli gan Lafur ar hyn o bryd- ac yng Ngheredigion, sedd oedd yn nwylo'r blaid rhwng 1992 a 2005.

Yn y gynhadledd, fe wnaeth y blaid hefyd bwysleisio ei chefnogaeth i'r cyflog byw, ac wedi dweud eu bod am sicrhau na fyddai'n rhaid i 70,000 o fusnesau dalu unrhyw drethi busnes.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.