Bws ar dân: Oedi ar y ffyrdd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd tagfeydd hir i'r ddau gyfeiriad ar ffordd a thu hwnt yng Nghaerdydd nos Iau.
Daw hyn wedi i fws fynd ar dân ar Rodfa'r Gorllewin ger Prifysgol Fetropolitan Caerdydd tua 4pm.
Cafodd y ffordd ei chau a'r heddlu'n cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal am fod tagfeydd hir ar adeg brysur.
Wedyn dim ond y lonydd i gyfeiriad y gorllewin oedd ar agor.
Cyrhaeddodd diffoddwyr o Drelái ac Eglwys Newydd a chafodd y tân ei ddiffodd tua 5.45pm.
Cwmni Wheadon's oedd yn berchen ar y bws. Doedd y gyrrwr ddim yn cludo teithwyr pan aeth y bws ar dân a chafodd neb ei anafu.
Ffynhonnell y llun, twitter