Cwmni yn cyhoeddi hediadau newydd o Faes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni hedfan wedi cyhoeddi hediadau newydd o Faes Awyr Caerdydd.
Mae cwmni Flybe yn dweud eu bod am gynnig hediadau i ddinasoedd yn cynnwys Caeredin, Glasgow, Faro a Milan.
Cafodd y maes awyr ei phrynu gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013.
Yn 2014, fe wnaeth Flybe benderfynu dod a hediadau o Gaerdydd i Glasgow a Pharis i ben wrth ail-strwythuro'r cwmni.