150 o swyddi: Cymeradwyo ffatri ieir yn Wrecsam

Maelor Creamery Image copyright Google
Image caption Fe gaeodd Hufenfa Maelor flwyddyn yn ôl

Mae cyn ffatri brosesu caws yn Wrecsam yn cael ei throi'n ffatri ieir, gan greu 150 o swyddi.

Fe gymeradwyodd cynghorwyr Wrecsam y cynllun nos Lun - bron i flwyddyn wedi i Hufenfa Maelor gau ar ôl i First Milk golli cytundeb sylweddol gydag archfarchnad.

Nawr, mae Maelor Poultry wedi dweud y bydd yn ceisio denu staff o ardaloedd difreintiedig lleol, yn ogystal â chyn weithwyr Frist Milk.

Fe ddywedodd y perchennog - Salisbury Poultry - y byddai'n buddosddi £10 miliwn i ddechrau'r gwaith ar y safle.