Cyn-bennaeth: 'Anwybyddu pryderon iechyd a diogelwch'
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad i ymddygiad cyn-bennaeth ysgol gynradd ym Merthyr Tudful wedi clywed ei bod hi dweud wrth ddisgyblion am barhau i chwarae pêl droed ar dir yr ysgol, er pryderon am iechyd a diogelwch.
Roedd staff ac adeiladwr wedi nodi pryder fod plant yn chwarae pêl droed ar ran penodol o'r maes chwarae yn Ysgol Heolgerrig.
Fe glywodd y gwrandawiad fod aelod o staff wedi rhybuddio'r plant na ddylen nhw chwarae yno - ond fe ddywedodd y plant fod Jill Evans wedi dweud wrthyn nhw am barhau.
Mae Ms Evans, 54, yn wynebu wyth cyhuddiad arall - yn cynnwys bwlio staff, torri rheolau cyfrinachedd a ffugio cofnodion.
Mae hi'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.
'Trafferth ymdopi'
Ddydd Llun, fe roddodd Branwen Llewellyn Jones - cyn arolygydd Estyn - dystiolaeth yn y gwrandawiad. Fe gafodd hi ei chyflogi gan yr ysgol fel ymgynghorydd.
Dywedodd Ms Llewellyn Jones wrth y gwrandawiad na welodd hi Gillian Strong - un o'r athrawon - yn gofidio tra'r oedd hi yn yr ysgol. Mae hi'n honni fod Ms Strong wedi dweud wrthi ei bod hi'n cael trafferth ymdopi â bod yn fam sengl, ond ei bod hi'n "gymeriad cryf iawn".
Yn gynharach, fe glywodd y panel fod Gillian Strong wedi troi'n bryderus a dagreuol oherwydd ymddygiad Jill Evans tuag ati.
Honnodd Ms Llewellyn Jones fod ganddi bryderon wedi iddi arsylwi dosbarth Ms Strong. "Roedd 'na ddiffyg trefn yn y dosbarth," meddai.
Yn ogystal, fe ddywedodd bod athro arall yn rheoli'r dosbarth meithrin yn llym, ac fe gafodd hi'r argraff nad oedd y ddau athro yn hapus fod rhaid iddyn nhw newid y modd yr oedden nhw'n dysgu'r plant.
'Drewi o fferm'
Wrth drafod aelod arall o staff, fe ddywedodd Ms Llewellyn Jones wrth y panel disgyblu ei bod hi wedi sylwi ar ymddangosiad Christine Warren - athrawes yn Ysgol Heolgerrig.
Dywedodd fod gan Ms Warren "esgidiau mwdlyd", "dillad crychiog" a'i bod hi'n "drewi o fferm", ond dywedodd na wnaeth hi rannu ei barn â Jill Evans ar y mater hwn.
Yn gynharach, fe glywodd y panel fod Ms Warren wedi gwylltio pan ddiflannodd siaced gnu yr oedd hi wedi bod yn ei gwisgo i'r gwaith. Yn ddiweddarach, dywedodd aelod arall o staff wrthi fod Jill Evans wedi rhoi'r siaced yn y bin.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- 27 Chwefror 2015