Pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn cofio'r 'Dianc Mawr'

Cwt 9 Image copyright other
Image caption Cwt Rhif 9 yw'r unig adeilad ar ôl o'r cyn wersyll rhyfel

Mae pobl Pen-y-bont ar Ogwr yn cofio digwyddiadau 70 mlynedd yn ôl pan ddihangodd y nifer fwyaf o Almaenwyr o wersyll carcharorion rhyfel ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Y dyddiad oedd 10 Mawrth 1945, a dihangodd 70 o Island Farm fisoedd yn unig cyn i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben.

Dros y penwythnos roedd cyfle i bobl yr ardal ymweld â'r gwersyll lle mae un o'r cytiau, Rhif 9, yn union fel yr oedd yn 1945. Mae'r cwt yn adeilad rhestredig.

Yn ôl Michael Clubb, hanesydd lleol ac awdur, fe greodd y digwyddiad gwreiddiol fraw mawr yn lleol, ac roedd yn brif stori yn y papurau Prydeinig am ddyddiau.

"O'dd pobl ofn, o'dd neb yn gwybod beth i wneud, o'dd y milwyr yma yn mynd i drefnu gwaith sabotage neu geisio lladd? Ro'dd rhai o'r rhain yn filwyr SS.

"Yn y diwedd ddigwyddodd ddim byd, ro'n nhw wedi ceisio dianc ond unwaith i'r awdurdodau eu dala, fe ildion nhw'n syth."

Image copyright other
Image caption Cyn i'r hen adeiladau gael eu dymchwel cafodd nifer o luniau, gwaith y carcharorion, eu hachub.

Ond yn ôl Mr Clubb, roedd anrhefn ar y dechrau gyda'r awdurdodau ddim yn gwybod faint oedd wedi dianc.

"Cafodd 11 eu dala y tu allan i'r gwersyll ac ro'dd rheolwyr y gwersyll yn meddwl bod y cyfan ar ben tan iddyn nhw gael galwad gan heddwas o Lanhari yn gofyn a oedd yna unrhyw garcharorion ar goll o'r gwersyll. Ro'dd e'n credu fod ganddo ddau yn y ddalfa."

Bu chwilio mawr yn ardal Pen-y-bont ac yn y diwedd cafodd pob un ei ddal. Fe lwyddodd rhai i gyrraedd cyrion Llundain.

Un o'r rhai helpodd gyda'r chwilio oedd Grahame "Buffo" Coles, bachgen saith oed ar y pryd.

"Fi'n cofio fy nhad - oedd yn yr Home Guard - yn dod adre ar frys am fod e'n moyn ei wn. 'Nancy,' gwaeddodd ar Mam, "ma'r Jyrmans wedi dianc o'r gwersyll, rhaid i fi fynd i whilo.

Ymchwiliad

"Roedd 'da fi nifer o gefndryd oedd yn y fyddin a dwi'n cofio mynd i Goedwig y Parc i whilo am y Jyrmans. Cofiwch chi, dwi ddim yn siŵr beth fydden i wedi 'wneud 'sen i wedi ffindo rhai.

"Roedd pobl yn whilo ym mhob gardd, ym mhob cwt a thoiled tu fas ... dwi hyd yn oed yn cofio dynion yn gorfod gwagio adar o gytiau colomennod rhag ofn bod rhai yn cwato ynddyn nhw."

Ar ôl y digwyddiad fe wnaeth un o bwyllgorau'r Tŷ Cyffredin gynnal ymchwiliad.

Image copyright other

Yn ôl Mr Clubb, roedd gwersyll Island Farm yn gwbl anaddas o'r cychwyn cyntaf.

Twnnel

Roedd y safle yn wreiddiol i fod yn un o ddau le i ddarparu lle cysgu i tua 3,000 o fenywod oedd yn rhan o'r gweithlu o 33,000 oedd yn ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr.

"Roedd y cytiau i gyd wrth ymyl y ffens allanol, doedd yna ddim tyrau gwarchod na goleuadau whilo.

"Yn y gwersylloedd yn yr Almaen roedd y cytiau i gyd yn y canol a chryn bellter o'r ffens. Dim ond twnnel o 60 troedfedd oedd angen i gyrraedd y ffens ar Island Farm, roedd y peth yn chwerthinllyd."

Dair wythnos ar ôl y "Dianc Mawr" fe gafodd 1,600 o garcharorion eu trosglwyddo i wersylloedd eraill ym Mhrydain.

Yna daeth y gwersyll yn gartref dros dro i 160 o uwchswyddogion byddin yr Almaen, gan gynnwys rhai o brif ymgynghorwyr Hitler tra eu bod nhw'n aros i fynd o flaen Llys Troseddau Rhyfel yn Nuremberg.

Image copyright other
Image caption Safle'r twnel lle llwyddodd nifer o garcharorion i ddianc