Canmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig

Bydd y Gwarchodlu Cymreig yn dathlu eu canmlwyddiant ar Ddydd Gŵyl Dewi gyda nifer o ddigwyddiadau ym mae Caerdydd.
Cafodd y Gwarchodlu ei ffurfio ar 26 Chwefror 1915 gan y Brenin Siôr V, er mwyn cynrychioli gwarchodlu o holl wledydd y DU yn y fyddin.
Fe welodd y Gwarchodlu ei brwydr gyntaf yn ystod brwydr Loos yng ngwlad Belg ar 27 Medi, 1915, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Enillwyd y Groes Fictoria gyntaf gan aelod o'r Gwarchodlu gan y Rhingyll Robert Bye ym mrwydr Pilckem ym mis Gorffennaf 1917. Cafodd y bardd Hedd Wyn o Drawsfynydd ei ladd yn ystod yr un frwydr.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, milwyr o'r Gatrawd Gymreig oedd y cyntaf i mewn i Frwsel ym mis Medi 1944, ar ôl ennill 100 milltir o dir mewn diwrnod.
Mae bataliwn y Gwarchodlu wedi treulio cyfnodau ym Mosnia, Gogledd Iwerddon, Kosovo ag Afghanistan yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Bydd dathliadau'r Gwarchodlu ddydd Sul yn cynnwys marathon, gwasanaeth eglwysig yng Nghanolfan y Mileniwm, a pharêd yn y bae.