'Addewid annelwig' am reoli treth incwm
- Published
Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth BBC Cymru "nad oes cwestiwn" o refferendwm ar yr hawl i amrywio treth incwm i Gymru, os nad oes eglurder dros ariannu Cymru yn dod o San Steffan.
Dywedodd David Cameron yn gynharach heddiw fod y "rhwystrau olaf" i refferendwm wedi eu symud, yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog am rymoedd datganoledig newydd i Gymru.
Fe fynodd Carwyn Jones "nad oes dolen" rhwng y ddau beth, gan alw'r cynnig yn "addewid annelwig".
Fe ychwanegodd na wnaeth llywodraeth y DU "ymrwymo o ddifrif" i daclo tanariannu.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Chwefror 2015
- Published
- 27 Chwefror 2015
- Published
- 26 Chwefror 2015
- Published
- 24 Chwefror 2015
- Published
- 19 Chwefror 2015
- Published
- 22 Hydref 2014
- Published
- 17 Rhagfyr 2014
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol