Cheryl James: Oedi cyn cynnal cwest newydd
- Cyhoeddwyd

Mae oedi wrth geisio penderfynu a ddylid cynnal cwest newydd i farwolaeth Cheryl James ym marics Deepcut yn Surrey.
Fe gafwyd hyd i gorff y milwr 18 oed o Langollen ym mis Tachwedd 1995, gyda bwled yn ei phen.
Fe gofnododd y cwest gwreiddiol reithfarn agored, ond fis Gorffennaf y llynedd, fe gafodd cwest newydd ei orchymyn.
Yn ystod gwrandawiad yn yr Uchel Lys, fe ofynnodd bargyfreithiwr ar ran Heddlu Surrey am ohirio'r cwest newydd.
Mae'r llu wedi galw am y gohiriad rhag ofn y bydd ceisiadau i gynnal cwest newydd i farwolaethau tri milwr arall yn Deepcut.
Nawr, mae'r gwrandawiad nesaf wedi ei ohirio am o leiaf pedair wythnos.
Mae rhieni'r Preifat James yn dweud eu bod nhw eisiau i'r cwest newydd i farwolaeth eu merch gael ei gynnal cyn gynted â phosib.
Y PEDWAR A FU FARW YN DEEPCUT
- Sean Benton (chwith), o Hastings, Dwyrain Sussex. Bu farw Mehefin 1995. Cafodd ei ganfod yn farw â phump anaf ergyd gwn i'w frest. Rheithfarn: Hunanladdiad
- Cheryl James, o Langollen. Bu farw Tachwedd 1995. Roedd ganddi un anaf ergyd gwn i'w phen. Rheithfarn: Agored.
- Geoff Gray, o Seaham, Sir Durham. Roedd ganddo ddau anaf gwn. Roedd pump ergyd wedi eu tanio. Ddaeth y tri arall ddim i'r golwg. Rheithfarn: Agored
- James Collinson (dde), o Perth. Roedd ganddo un anaf gwn. Rheithfarn: Agored.
Straeon perthnasol
- 1 Rhagfyr 2014
- 18 Gorffennaf 2014