Cymeradwyo cyllideb Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyllideb fydd yn mynd i'r afael â diffyg ariannol o £48.3 miliwn, a hynny wedi trafodaethau maith.
Mi wnaeth y cynghorwyr bleidleisio i gymeradwyo cynlluniau cabinet Llafur, fydd yn golygu bod treth y cyngor yn cynyddu 5% a hyd at 600 o swyddi dan fygythiad.
Yn ogystal cafwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, ei gynnig gan y gwrthbleidiau.
Daeth tua 100 o brotestwyr i leisio eu barn cyn y cyfarfod ddydd Iau.
Cafodd y trafodaethau eu gohirio am awr wrth i gynghorwyr ystyried cynlluniau newydd gan aelodau Llafur.
Roedd y cynlluniau yn cynnwys rhoi mwy o arian i ganolfannau cymunedol, grwpiau chwarae plant a gwasanaethau cyffuriau.
Roedd nifer yn y galeri cyhoeddus wedi cwyno am y toriadau a'r ffordd y cafodd y trafodaethau eu cynnal.
Cafodd y gyllideb newydd ei chymeradwyo yn dilyn trafodaethau maith, ond cafodd newidiadau gafodd eu cyflwyno gan gynghorwyr Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol eu gwrthod.
Cynhaliwyd y cyfarfod wedi ymgynghoriad ar y gyllideb.
Yn dilyn y cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder gan y gwrthbleidiau, mae disgwyl y bydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal wythnos nesaf.