Achos damwain awyren yn parhau'n ddirgelwch
- Cyhoeddwyd

Mae achos damwain ble plymiodd awyren i'r ddaear ar y llain lanio ym Maes Awyr Caernarfon, gan ladd y peilot, yn parhau'n ddirgelwch.
Bu farw Ashley Hazelwood, 61 oed o Fae Cinmel, ger Y Rhyl, yn y ddamwain ddigwyddodd ym mis Mai llynedd.
Clywodd cwest i'w farwolaeth ei fod yn ddyn iach a dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones nad "oedd yn gallu dod i gasgliad ynglŷn â pham roedd yr awyren wedi plymio i'r ddaear".
Cofnododd y crwner gasgliad o farwolaeth drwy ddamwain.
'Dyn iach iawn'
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon bod awyren Mr Hazelwood wedi cyrraedd uchder o 200 troedfedd cyn troi i'r chwith cyn y ddamwain.
Dywedodd Mr Pritchard-Jones: "Pan wnes i ddarllen y dystiolaeth gyntaf roeddwn i'n credu bod rheswm meddygol pam roedd yr awyren wedi plymio i'r ddaear, bod rhywbeth trawmatig wedi digwydd i'r peilot.
"Ond mae'r archwiliad post-mortem yn dangos ei fod yn ddyn iach iawn.
"Nid yw'r dystiolaeth o sut roedd yr awyren yn cael ei hedfan yn darparu eglurhad am pam wnaeth y peilot ddim cywiro gwiriad yr awyren i'r chwith. Ni allaf ddod i gasgliad ynglŷn â pham roedd yr awyren wedi plymio i'r ddaear."
Straeon perthnasol
- 16 Mai 2014