Cyhuddo eglwys o "homoffobia"

Image copyright AFP/Getty

Mae un o weinidogion Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyhuddo'r eglwys o fod yn homoffobig, wrth i enwadau crefyddol drafod a ydyn nhw am ganiatau i gyplau o'r un rhyw briodi yn eu heglwysi a'u capeli yng Nghymru.

Mewn cyfweliad a rhaglen faterion cyfoes Manylu ar Radio Cymru, mae'r Parchedig Morris Puw Morris o Ruthun yn dweud fod gwrthwynebiad yr Eglwys i briodas hoyw yn "enghraifft o homoffobia mwy gwaelodol o fewn eglwys Iesu Grist, ac mae hynny'n ddweud dychrynllyd iawn."

Dywedodd yr Eglwys Bresbyteraidd mewn datganiad mai penderfyniad i lysoedd gweinyddol yr eglwys oedd caniatau i gyplau o'r un rhyw i briodi.

Mae'n agos i flwyddyn ers i ddeddf ddod i rym yn caniatau i gyplau hoyw briodi. Does dim gorfodaeth ar sefydliadau crefyddol i gynnal priodasau hoyw, ac mae'n rhaid i bob enwad ddatgan yn swyddogol eu bod am briodi cyplau o'r un rhyw cyn eu bod yn cael gwneud hynny.

Cyhuddiad o "homoffobia"

Wrth i rai o'r enwadau yng Nghymru drafod eu polisi, mae'r Eglwys Bresbyteraidd - neu'r Methodistiaid Calfinaidd - yn cael eu cyhuddo o homoffobia, drwy fod yn amharod i wneud hynny.

Dywed y Parchedig Morris Puw Morris fod yr Eglwys wedi treulio cryn amser yn trafod a ddylen nhw fendithio partneriaethau sifil, a'i bod wedi methu dod i gytundeb ynglyn â hynny am chwe blynedd.

Mae'n awgrymu fod yr Eglwys yn hynod o geidwadol, yn tybio bod unrhyw fath o newid mewn unrhyw gwestiwn moesol yn beth drwg. Dywedodd: "Yr argraff y'n ni'n rhoi i bobl yw bod y Duw y'n ni cynnig iddyn nhw yn gawr o Dduw homoffobig na fyddai neb yn ei iawn bwyll yn dymuno ei addoli, ac mae hynny'n anffodus".

"Dyna pam y mae'r mater mor bwysig i mi - oherwydd hawliau y gymuned hoyw eu hunain, ac oherwydd yr argraff o grefydd a'r efengyl ac o Grist a'r Eglwys i bobl pan y'n ni'n siarad ac yn defnyddio geiriau fel 'annaturiol' a 'ffiaidd' a 'phechadurus'."

Yn wahanol i rai o enwadau eraill Cymru, mae'n rhaid i gapeli'r Presbyteriaid dderbyn cyfarwyddiadau'r Eglwys yn ganolog ar gwestiynnau fel priodasau hoyw.

Mae'r Eglwys yn cael ei gweinyddu mewn llysoedd, a nhw fydd yn penderfynu a fydd eu capeli yn cael cynnal priodasau hoyw.

Datganiad yr Eglwys

Doedd yr Eglwys ddim yn awyddus i drafod priodasau un rhyw gyda rhaglen Manylu, ond mewn datganiad dywedodd yr eglwys: "Gan fod y mater hwn yn un sy'n ymwneud ag ail-ddiffinio'r hyn a gredwn am briodas, mae'r camau sy'n cael eu gosod yn golygu mae'r Gymdeithasfa yn cyfarfod yn y Rhanbarthau ddylai drafod hyn.

"Bydd y Gymdeithasfa yn trafod os yw hyn yn cyd-fynd gyda'r Ysgrythur, yn cyd-fynd gyda'n Cyffes Ffydd, yn cyd-fynd gyda'r deall Trindodaidd a Diwygiedig o'r fydd Gristnogol, ac yn cyd-fynd gyda'r crynodeb o'n credo sydd yn y cyntaf o Erthyglau Datganiadol Deddf Seneddol 1933. O ddiogelu cytundeb ar hyn, gwahoddir y Taleithiau i ystyried os ydynt am dderbyn diffiniad newydd o briodas."

Dywed y Presbyteriad eu bod yn disgwyl dod i benderfyniad ynglŷn â'r cwestiwn y flwyddyn nesaf. Tra bod rhai o'u haelodau yn cytuno gyda Morris Puw Morris, mae eraill yn bendant yn erbyn priodasau un rhyw.

Un o'r rheiny ydi Meurig Voyle. Roedd o'n arfer bod yn flaenor yn Ninbych, ond mi wnaeth ymddiswyddo er mwyn gwneud safiad ddwy flynedd yn ôl, am nad oedd yn credu bod yr Eglwys yn rhoi arweiniad ynglŷn â bendithio partneriaethau sifil.

Bellach, gyda'r drafodaeth wedi troi at briodasau, mae o'n dweud mai rhywbeth sanctaidd rhwng gŵr a gwraig ydi priodas, ac na ddylai gael ei ganiatau rhwng pobl hoyw.

1400 o briodasau

1400 o briodasau hoyw gafodd eu cynnal yng Nghymru a Lloegr yn ystod y tri mis cyntaf wedi iddyn nhw ddod yn gyfreithlon. Mae Manylu wedi bod yn siarad gydag un o'r cyplau hoyw cyntaf i briodi yng Nghymru - Kate Gwynfyd Sidford a Dell Gwynfyd Harris o Bontrhydfendigaid.

Er eu bod nhw wedi bod mewn partneriaeth sifil ers 2006, ac wedi cydfyw am flynyddoedd cyn hynny, roedd priodi yn bwysig iddyn nhw er mwyn bod yn gyfartal gyda chyplau heterorywiol. Oherwydd mai Crynwyr ydyn nhw - un o'r ychydig enwadau sydd wedi cyhoeddi eu parodrwydd i gynnal priodasau hoyw, roedd hi'n bosib i'r ddwy gynnal eu seremoni yn eu haddoldy eu hunain.

Bydd modd gwrando ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau.

Image caption Dell Gwynfyd Harris a Kate Gwynfyd Sidford o Bontrhydfendigaid.