Sefydlu cronfa er cof am John Davies
- Cyhoeddwyd

Mae teulu'r hanesydd Dr John Davies wedi penderfynu gofyn am roddion er cof amdano, gan eu defnyddio i sefydlu cronfa i Fenter Caerdydd.
Nod y gronfa yw cefnogi creu canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd.
Bu farw'r hanesydd a'r darlledwr yn 76 oed yr wythnos ddiwethaf.
Roedd John Davies yn un o haneswyr amlyca'r wlad ac mae ei gyfrol Hanes Cymru, gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1990 gydag ail argraffiad yn 2006, wedi'i disgrifio fel y cofnod mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl.
Yn frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda, fe symudodd gyda'i deulu i bentre' Bwlch Llan yng Ngheredigion ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer yn ei alw'n John Bwlch Llan.
Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, roedd yn darlithio ym mhrifysgolion Abertawe ac Aberystwyth, ble oedd yn Warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.
Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y 1960au.
Yn ddarlledwr poblogaidd, roedd yn Gymrawd yr Academi. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010 gyda'i gyfrol Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw.
Ymhlith ei lyfrau eraill, mae hanes teulu Ardalydd Bute a Chaerdydd, a hanes y BBC yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 17 Chwefror 2015
- 16 Chwefror 2015