Cyfaddef llofruddio bardd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Copyright of South Wales Argus
disgrifiad o’r llunAnne Jackson, oedd yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar

Mae dyn wedi cyfaddef llofruddio bardd 78 oed yn Sir Fynwy y llynedd.

Mae Timothy Jackson, 48 o Sheffield, wedi cyfaddef lladd ei lys-fam Anne Jackson - yn wreiddiol o Wlad Belg ac yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar - yn ei chartref ger Brynbuga.

Fe gafodd Ms Jackson, oedd hefyd yn athrawes ysgrifennu creadigol, ei chanfod wedi ei thrywanu fis Tachwedd y llynedd.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Ms Jackson a'i gŵr, Walter wedi dathlu 39 mlynedd o briodas ddiwrnod cyn y digwyddiad.

Cafodd Mr Jackson ei gadw yn y ddalfa, a chafodd ei rybuddio y byddai'n treulio cyfnod hir dan glo.

ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
disgrifiad o’r llunBydd Timothy Jackson yn cael ei ddedfrydu fis nesa'