Cofio Merêd

Meredydd Evans yn Aberystwyth yn 2011 - llun Diarmuid Johnson Image copyright Diarmuid Johnson
Image caption Meredydd Evans yn Aberystwyth - Calan Mai 2011

Mae llu o deyrngedau wedi eu rhoi i Dr Meredydd Evans, fu farw ar 21 Chwefror. Yn berfformiwr, ymgyrchydd iaith, ysgolhaig, darlledwr ac arbenigwr ar ganu gwerin, roedd 'Merêd' yn ffigwr amlwg a dylanwadol mewn sawl maes gwahanol.

Roedd hefyd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd o 1963 - cyfnod pwysig pan ddarlledwyd rhaglenni fel Hob y Deri Dando, Disg a Dawn, Ryan a Ronnie a Fo a Fe.

Image caption Merêd: y diddanwr a'r arweinydd naturiol

"Cydwybod cenedl"

Ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru ar fore Sul, fe ddywedodd R Alun Evans, cyfaill a chydweithiwr iddo yn y BBC, fod Merêd yn benderfynol o greu adloniant oedd yn gynhenid Gymreig, yn lle dynwared yr hyn oedd ar gael yn Saesneg. Roedd y penderfyniad a'r dyfalbarhad yma yn amlwg mewn sawl agwedd o'i fywyd:

"Roedd e'n ddyn dewr, tyner, nid yn unig yn ffigwr cenedlaethol ond o fewn ei gymuned a'i fro... roedd yn llywydd ar fenter papur bro Y Ddolen - yn torchi llewys, fel oedd eraill yn torchi llewys, i gael y papur allan i'r gymuned yn fisol..."

"Ry'n ni newydd fod yn cofio John Davies (yr hanesydd), ac os mai John oedd cof cenedl, Merêd ar sawl cyfri oedd cydwybod cenedl... P'run ai oedd o ym myd darlledu, ym myd academia, yn y byd crefyddol, yn y byd cymdeithasol - roedd Merêd yn berson cant y cant, a mawr mawr ein dyled iddo fe."

Image copyright Iestyn Hughes

Athronydd a meddyliwr

Fe gyd-olygodd Yr Athro Geraint H Jenkins y gyfrol 'Merêd: detholiad o ysgrifau Dr. Meredydd Evans' a gyhoeddwyd ym 1994. Fe ddywedodd wrth Cymru Fyw:

"Mae'n bwysig iawn cofio bod Merêd yn ysgolhaig deallus ac yn feddyliwr praff. Pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Princeton eisteddai wrth draed rhai o athronwyr penna'r byd. Codai law ar Einstein bob bore wrth gerdded i'w waith a phan aeth ymlaen i ddysgu ym Mhrifysgol Boston cafodd ei ethol yn athro gorau'r flwyddyn ym 1957.

"Petai wedi dewis gwneud hynny gallai fod wedi dod yn athronydd o bwys Ewropeaidd. Ond roedd Cymru'n galw a mil o bethau eraill i'w gwneud. Eto i gyd, daliai i fyfyrio'n ddwys uwchben problemau moesol, diwinyddol a metaffisegol, a hyd yn oed yn ei nawdegau cafodd flas aruthrol ar ddarllen llyfr gorchestol 1,161 tudalen Diarmaid MacCulloch, A History of Christianity.

"Trwy astudio gweithiau fel hyn, daeth Merêd i weld mai sylfaen pob cymdeithas wareiddiedig yw cyfiawnder, rhyddid a thegwch. A dyna osod sail i'w lafur diflino dros ein cenedl a'n hiaith."

Y canwr gwerin

Image copyright Gai Toms

Cafodd y cerddor Gai Toms, fel Meredydd Evans, ei fagu yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Mae Gai wedi rhannu ei atgofion gyda Cymru Fyw:

"Cefais fy magu gyda edmygedd o Merêd. Roedd fy rhieni wastad yn sôn amdano â pharch... er, fel plentyn doeddwn ddim yn siŵr pam.

"Yna, fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, fe ddois ar ei draws yng nghaffi'r Llyfrgell Genedlaethol lle buom yn trafod popeth dan haul, o Meic Stevens i draddodiad y caban, o fy nhraethawd 'Dadansoddi Gofod' (Drama) i wleidyddiaeth ac athroniaeth. O'r diwrnod hwnnw, nid enigma bellach ond cawr o ddyn! Braint oedd ei adnabod fel cyfaill. Cwsg yn dawel Merêd."

Image copyright Gai Toms
Image caption Gai Toms a Meredydd Evans yn paratoi i recordio

Yn 2012 fe recordiodd y ddau gân gyda'i gilydd ar gyfer prosiect diweddaraf Gai:

"Roedd fy albwm 'Bethel' yn ddathliad o'r ffaith mod i wedi buddsoddi yn hen festri capel Bethel (Tanygrisiau) i'w drosi yn stiwdio recordio, roedd dwy ochr iddi - Hen a Newydd, y testaments! Pwy gwell i gymryd rhan yn 'Genesis' yr albwm ond Merêd?

"Ysgrifennais 'Cân y Dewis' gyda Merêd mewn golwg, ro'n i mor hapus pan gytunodd i gymryd rhan, ac ynta yn 94 ar y pryd. Roedd o mor falch fy mod i wedi cymryd yr adeilad drosodd ac yn gefnogol o hyd.

"Bythefnos yn ôl mi ffoniodd i fy llongyfarch ar recordiad Band Arall (wedi ei recordio yn Bethel) a hefyd i sôn am amryw beth, Cwmorthin yn eu mysg. Roedd o'n swnio'n sionc a iach fel arfer ar y ffôn, siom mawr yw clywed ei fod wedi mynd mor sydyn wedi hynny."

"Cawr ac arloeswr ym myd darlledu yng Nghymru"

Image caption Y cynhyrchydd adloniant ysgafn yn y BBC yn 1966

Roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn ar raglen Newyddion S4C nos Sadwrn 21 Chwefror i dalu teyrnged i'w "fentor" cynnar yn y BBC, gan ddweud ein bod wedi colli "cawr ac arloeswr ym myd darlledu yng Nghymru":

"Mi fyddai'n ei gofio fo fel tad ac fel mentor i mi, achos roedd o yna reit ar y dechrau pan oeddwn i'n cychwyn yn y BBC fel darlledwr nôl yn 1964. Mi oedd o yna i mi drwy'r amser - o hyd yn gofyn sut mae pethau'n mynd... a ddim yn brin chwaith o roi beirniadaeth fach i mi.

"Felly dwi'n teimlo ein bod ni wedi colli pen teulu, achos pan oeddwn i'n cychwyn a phan oedd Merêd yn sefydlu yr adran adloniant ysgafn, fo oedd tad y teulu - a teulu bychan oedd o hefyd ar y pryd."

Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Meredydd Evans ym Mharêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2013

#Merêd

Mae dwsinau o ddefnyddwyr Twitter, o bob cenhedlaeth, wedi bod yn trydar eu teyrngedau, gyda'r hashnod #Mered yn profi'n boblogaidd tu hwnt. Dyma ddetholiad yn unig:

Yr Ods (band): "Dim ond parch. Dr Meredydd Evans. X"

Dafydd Iwan (gwleidydd a chanwr): "Bydd Mered gyda ni am byth i'n hysbrydoli. Cristion o heddychwr, ymgyrchydd o genedlaetholwr, pencampwr y gân. Diolch am fywyd mor gyfoethog"

Non Gwenhwyfar (newyddiadurwr): "Trist ofnadwy clywed am farwolaeth y gwron hynaws, y Dr Meredydd Evans, #Merêd - un na ildiodd yr un owns dros y Gymraeg a'i diwylliant... Fe gofiaf y wên a'r llygaid disglair, y difyrrwch yn ei gwmni, a'i farn disyfl. Cymhellwr clên y Cymry. 'Y wên na phyla amser' yn wir #Merêd"

Huw Stephens (cyflwynydd Radio Cymru a Radio 1 ): "Diolch am fywyd Meredydd Evans; roedd e'n fraint cael cwrdd ag e a'i deulu."

Dewi Prysor (awdur): "Trist clywed am Mered. Cymeriad ffraeth a chynnes, dyn difyr tu hwnt, a'i gyfraniad anferthol i ddiwylliant Cymru. Colled!... Tro dwytha i mi weld Mered, ro'n i ar 'ffordd i ben y Moelwyn ben bora, ac o'dd o'n cael i ffilmio yng Nghwmorthin. O' raid i bopeth stopio am sgwrs. Ges i fwy o hanes yn yr hannar awr honno nag yn fy nghwrs gradd, bron! Ac enw pob clogwyn a chraig oedd yn y golwg."

Huw Edwards (newyddiadurwr): "Colled enfawr. Diolch am ei ymroddiad a'i arweiniad disglair."

Dyl Mei (cynhyrchydd cerddoriaeth): "Canu gwerin oedd yn ei galon. Ond saff i ddeud fysa sin gerddorol Cymru yn ddim heb ei waith yn y BBC yn ystod y 60au a 70au. Nos da Mered."

Menna Machreth (ymgyrchydd iaith): "Tristwch mawr o golli Dr Meredydd Evans yn 94 oed. Ysgolhaig, ymgyrchydd diflino, dyn yr alawon gwerin, a ffrind annwyl. Arwr xx"

John Pierce Jones (actor): "Roedd Mered yn gwmniwr ffraeth. Dwi erioed 'di chwerthin cymaint a wnes yn ceisio gosod oergell yn ei garej efo Rhydderch a Gwenlyn un pnawn"

Guto Dafydd (bardd): "Super Furries yn gyrru tanc swnllyd heibio i'r Babell Lên. Y gynulleidfa'n twt-twtian. Merêd, o'r llwyfan: "Mae arnom eu hangen hwythau."

Endaf Emlyn (canwr a chyfarwyddwr): "Heb arweiniad Mered, fasa hi wedi bod yn dywyll iawn arnom. Colled enfawr."

Ryland Teifi (canwr ac actor): "Dyn a wnaeth ysbrydoli'r dadenni yng nghaneuon ein gwlad. Diolch. Cysga'n dawel #Merêd"

Angharad Tomos (awdur ac ymgyrchydd iaith): "Mered - ein Mandela ni."

Iestyn Hughes (ffotograffydd): "Fe ddaeth y llanw mawr i fylchu'n mur ddwywaith y Chwefror hwn, a bwrodd don o dristwch drosom #JohnDavies #Merêd"

Gallwch ddarllen mwy o deyrngedau i Dr Meredydd Evans drwy glicio yma, ac os hoffech gyfrannu eich teyrnged eich hun e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Mae Dr Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth wedi cysylltu:

"Atgofion hapus iawn o gyfweld Merêd tra'n paratoi fy llyfr ar hanes teledu ITV yng Nghymru. Roedd yn barod iawn i sgwrsio am deledu... a phopeth arall, gan gynnwys y ffaith mod i'n dod o aelwyd di-Gymraeg ond bellach yn rhugl diolch i'r gyfundrefn addysg yn y de-ddwyrain! Coffa da iawn amdano a chymdymdeimlad dwysaf â Phyllis a'r teulu."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC