Triawd y coleg
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cofio Dr Meredydd Evans

22 Chwefror 2015 Diweddarwyd 11:52 GMT

Yn 95 oed, bu farw Dr Meredydd Evans.

Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, cynhyrchydd teledu, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith.

Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd yn ystod yr 1960au ac 1970au.