Bachgen ar goll: Cyfarfod gweddi

Cyhoeddwyd
Cameron Comey
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Cameron ei weld ddiwethaf yn chwarae ger Afon Tywi yn ardal Tanerdy brynhawn Mawrth

Bu arweinwyr crefyddol ardal Caerfyrddin yn cynnal cyfarfod o weddi a goleuo canhwyllau fore Gwener i feddwl am Cameron Comey, sydd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth.

Roedd dros 140 o bobl yn y gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, yn cynnwys aelodau o'r gwasanaethau brys sydd wedi bod yn rhan o'r chwilio yn y dyddiau diwethaf.

Cafodd Cameron ei weld diwethaf yn chwarae ger Afon Tywi yn ardal Tanerdy, Caerfyrddin brynhawn Mawrth gyda'i frawd.

Disgwylir i'r ymdrechion i chwilio amdano ail-gychwyn yn ystod dydd Sadwrn.

Ddydd Iau a dydd Gwener, roedd 50 o bobl yn chwilio amdano, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, y gwasanaeth tân, Gwylwyr y Glannau a thimau bad achub.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd dros 140 o bobl yn y gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,
Goleuwyd canhwyllau fel rhan o'r gwasanaeth