Cyfradd diweithdra Cymru yn gostwng ychydig
- Published
Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi gostwng ychydig o'i gymharu â'r ffigyrau gafodd eu rhyddhau fis yn ôl.
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau yn dangos bod ychydig yn llai na 100,000 o bobl - cyfradd o 6.7% - yn ddi-waith yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd.
Roedd ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ym mis Ionawr, ar gyfer Medi hyd at fis Tachwedd, yn dangos cyfradd o 7%.
Yn ogystal, roedd 3,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr o'i gymharu â'r tri mis rhwng blaenorol.
Ar draws y DU, mae diweithdra wedi gostwng eto, gyda'r gyfradd nawr yn 5.7%.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb: "Mae'n amlwg o'r ffigyrau yma bod rhaid i ni barhau i weithio'n galed i weld yr effaith positif yn parhau.
"Rydyn ni wedi dweud erioed na fydd yn rhwydd, ac mae her o'n blaenau i sicrhau twf ym mhob rhan o'r wlad."
Er y ffigyrau addawol, mae mwy o bobl allan o waith, neu methu gweithio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyfradd y bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn dal i wella, ac yn parhau yn gadarn ar lefel uwch na'r cyfartaledd hanesyddol, ac mae diweithdra yn is na'r amser yma'r llynedd.
"Ddydd Mercher, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid 200 o swyddi newydd sydd wedi cael eu creu â chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn Universal Engineering yn Llantrisant. Mae hyn yn esiampl arall o'n polisïau yn gwneud gwahaniaeth."