Creu 200 o swyddi peirianneg newydd yn Llantrisant
- Published
Fe fydd 200 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ffatri newydd cwmni peirianneg Universal Engineering yn Llantrisant.
Mae'r cwmni yn arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu offer cymhleth ar gyfer sectorau tanddwr, olew a nwy, ac ar gyfer y diwydiant amddiffyn a'r diwydiant awyrofod.
Mae'r ffatri, sy'n 250,000 o droedfeddi sgwâr, wedi agor ers chwe mis ac mae 65 o swyddi wedi'u llenwi yn barod.
Mae'r buddsoddiad tuag at y swyddi yn cael ei ategu gan £2 miliwn o gyllid busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Universal Engineering y cafodd y safle 16 erw yn Llantrisant ei ddewis o restr fer o safleoedd ledled y DU a thramor oherwydd ei gysylltiadau trafnidiaeth, sy'n cynnwys porthladdoedd dwfn Casnewydd a Chaerdydd, a'r gweithlu lleol.
Fe fydd y swyddi'n cael eu cyhoeddi gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart ar ei hymweliad â'r dref ddydd Mercher.
'Hwb aruthrol'
Dywedodd Ms Hart: "Dwi'n falch iawn bod y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau bod y prosiect pwysig hwn yn dod i Gymru, a bod y broses recriwtio eisoes ar droed.
"Bydd yn hwb aruthrol i'r economi leol. Y buddsoddiad hwn yn y sector gweithgynhyrchu uwch yw'r union fath o fuddsoddiad rydyn ni am ei ddenu. Bydd yn creu nifer sylweddol o swyddi da ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd gyrfa."
Fe fydd y cwmni yn cydweithio'n agos â Choleg Gwent i roi profion crefft i weithwyr cyn iddynt gael eu cyflogi, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau rhyngwladol.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Universal, Mark Cooper: "Rydyn ni yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cydweithio â cholegau lleol i fynd i'r afael â'n hanghenion o ran sgiliau yn y dyfodol.
"Mae'r trefniant newydd arloesol hwn yn cefnogi swyddi lleol ac yn fodd i ni sicrhau staff â'r cymwysterau priodol er mwyn inni fedru cynnal ein safonau rhyngwladol."