Brwydro ar wyneb y graig
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddarlledwraig Beti George wedi bod yn pori trwy archifau ffilm BBC Cymru ar gyfer cyfres newydd 'Cymru ar Ffilm' sydd i'w gweld ar S4C. Yr wythnos hon hanes y chwareli yn y gogledd a'r pyllau glo yn y de yn y 60au a'r 70au sydd dan sylw:
Streicio
Hanes gwrthdaro rhwng y gweithiwr a'r perchennog yw e gan fwya'.
Pobl Blaenau Ffestiniog a Bethesda yn cofio'r streic fawr a'r hollt achosodd honno. Un wraig yn dal i fethu yngan y gair oedd yn cael ei ddefnyddio am y sawl oedd wedi torri'r streic. Cynffonnwr oedd y gair hwnnw, a doedd 'na ddim maddau i fod i hwnnw na'i deulu.
Yr un yw'r stori yn y de wrth edrych yn ôl ar streic 1926 y glowyr. Symud o'u hardal oedd yr unig ateb i'r rheiny a dorrodd y streic. A'r perchnogion enillodd y dydd.
Bu'n rhaid i'r glowyr fynd nôl i'r gwaith a derbyn yr amodau oedd wedi achosi iddyn nhw streicio yn y lle cynta'.
Mae gwrando ar sgwrs Dai Francis, un o hoelion wyth Undeb y Glowyr, yn atgo' o oes aur Undeb y Glowyr yn y de, ac undebaeth yn gyffredinol.
"Ddim amgenach na chaethwas"
A man a man i fi gyfadde', 'dw i'n hiraethu am yr oes honno pan oedd gan y gweithiwr rywfaint o rym i ymladd nôl yn erbyn cyflogwr di-enaid. Heddi does ganddo ddim ac mae'r oriau zero yn mynd â ni nôl i'r oes pan roedd y gweithiwr yn ddim amgenach na chaethwas.
Ar ochr y gweithiwr y bum i erioed. Hynny mae'n debyg am fy mod yn ferch i wehydd a driodd ei lwc yn y "gweithe". Aeth i Tylorstown i weithio dan ddaear. Chwe mis barodd e. Wnes i erioed ofyn iddo pam nad oedd e wedi aros yn hirach yno.
Ond fe ddaeth nôl yn sosialydd rhonc - "yr unig sosialydd yn y pentre"!
Cymru ar Ffilm: Cyfoeth y Graig, S4C, 22:00, Nos Fercher, 25 Chwefror.
Bydd llais Beti George hefyd i'w glywed ar Beti a'i Phobl, 10:00, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 22 Chwefror.