Llafur am ddatganoli pwerau dros ffracio

Ffracio Image copyright Getty Images
Image caption Mae pwerau tebyg dros y dechneg drilio nwy eisoes wedi'u datganoli i'r Alban.

Byddai pwerau dros ffracio yn cael eu datganoli i Gymru os yw Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol, cyhoeddodd y blaid ddydd Gwener.

Mae pwerau tebyg dros y dechneg drilio nwy eisoes wedi'u datganoli i'r Alban.

Mae nifer o geisiadau drilio archwiliadol wedi cael eu cymeradwyo ym Mro Morgannwg a'r ardal o gwmpas.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn newid ei chyngor i gynghorau lleol ar ffracio - gan olygu mewn gwirionedd bod cynlluniau presennol yn cael eu rhoi o'r neilltu am y tro.

Wrth siarad cyn cynhadledd flynyddol y blaid y penwythnos hwn. dywedodd llefarydd y blaid ar Gymru, Owen Smith:

"Bydd llywodraeth Lafur a etholwyd ym mis Mai yn datganoli pwerau trwyddedu ynghylch ffracio i Gymru. Mae'n iawn fod penderfyniadau fel y rhain yn cael eu cymryd yn agos at y cymunedau a allai gael eu heffeithio".

Hanner miliwn

Yn y gynhadledd, bydd Llafur Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i siarad â hanner miliwn o bleidleiswyr cyn Etholiad Cyffredinol mis Mai.

Gyda'r polau piniwn yn awgrymu y bydd canlyniad yr etholiad yn agos dros ben - ac ail senedd grog yn olynol yn bosibilrwydd go iawn - mae Llafur yn cyfaddef ei fod yn debygol y bydd y Ceidwadwyr yn gwario mwy na nhw yn ystod yr ymgyrch.

Image caption Bydd Ed Miliband a Carwyn Jones yn annerch y gynhadledd yn Abertawe

Ond mae Llafur Cymru yn dweud bod ganddyn nhw lawer mwy o ymgyrchwyr ar lawr gwlad nag yn ystod ymgyrch 2010.

"Ni allwn wario mwy na'r Torïaid yn yr etholiad hwn, ond byddwn yn trefnu yn well na nhw," meddai llefarydd ar ran y blaid.

26 sedd

Ar hyn o bryd mae Llafur yn dal 26 o'r 40 sedd yng Nghymru, ac yn dweud eu bod yn targedu wyth arall - Aberconwy, Arfon, Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd, Bro Morgannwg, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a Preseli Sir Benfro.

Wrth siarad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Iau, dywedodd Owen Smith y byddai llywodraeth Lafur yn "adeiladu Undeb newydd" yn seiliedig ar ymddiriedaeth rhwng gwahanol wledydd y DU.

Meddai: "Yn rhy aml dros y pum mlynedd diwethaf, mae gweinidogion Llywodraeth y DU o'r Prif Weinidog i Ysgrifenyddion Cymru fel ei gilydd wedi cynnig geiriau cynnes a'r addewid o bartneriaeth wrth ymweld â Chymru, dim ond i roi'r gorau i unrhyw ymddangosiad o barch unwaith yn ddiogel yn ôl yn SW1.

"O ddisgrifiad Mr Cameron o Glawdd Offa fel y ffin rhwng bywyd a marwolaeth at bortread diweddar a chwerthinllyd Mr Crabb o'n hysgolion fel 'gwaeth na Dwyrain Ewrop', mae Llywodraeth y DU wedi gweld Cymru yn fodd i ymosod ar y Blaid Lafur, ac wrth wneud hynny wedi dileu ei chyfrifoldeb i siarad am Brydain, a'i holl bobloedd.

"Bydd Llafur, gyda'n gwreiddiau a chynrychiolaeth ym mhob cwr o'r ynysoedd hyn, yn gwneud pethau'n wahanol; byddwn yn adeiladu Undeb newydd, yn seiliedig ar ymddiriedaeth, parch ac undod rhwng gwledydd cyfansoddol ein gwladwriaeth.

"Byddwn yn cryfhau pob gwlad unigol trwy ddiwygio ein heconomi a'n sefydliadau gwleidyddol, ac felly adnewyddu ein cryfder ar y cyd i ymgysylltu, cystadlu a chydweithio yn y byd modern byd-eang."

Addewidion

Mae'r gynhadledd yn Abertawe yn rhedeg tan ddydd Sul.

Mae Llafur eisoes wedi cyhoeddi addewidion etholiadol i gael cyllideb â gweddill (heb gynnwys gwariant cyfalaf) erbyn diwedd y senedd, ac i gael yr hyn y mae'n galw yn "rheolau mewnfudo decach".

Mae hefyd wedi addo i ddefnyddio "Treth Plasty" i dalu am 1,000 o weithwyr meddygol ychwanegol yn y GIG yng Nghymru, ac i gynnig 10 awr o ofal plant am ddim ychwanegol ar gyfer plant tair a phedair oed yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.