Achub llyfrgelloedd Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Ni fydd cynlluniau i gwtogi gwasanaethau llyfrgell Caerdydd yn cael eu cynnwys mewn cynnig am gyllideb fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Gwener.
Mae'r grŵp Llafur wedi tynnu'n ôl y cynnig dadleuol a oedd am gael ei gyflwyno i'r cyngor llawn ar 26 Chwefror.
Wythnos diwethaf daeth tua 400 o bobl i brotestio yng Nghaerdydd i wrthwynebu cynlluniau'r cyngor i dorri cyllideb y llyfrgelloedd.
Roedd y cyngor wedi bod yn ystyried cwtogi grantiau, gan obeithio defnyddio gwirfoddolwyr i gynnal hyd at saith o lyfrgelloedd lleol.
Dywedodd yr ymgyrchwyr y byddai'r toriadau yn effeithio ar Lyfrgell Canolog Caerdydd.
Fe wnaeth nifer o awduron ddod i'r brotest yn y ddinas i gefnogi'r ymgyrch.
Roedd prif leisydd y grŵp The Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, wedi ysgrifennu at y cyngor yn galw arnyn nhw i ddiogelu gwasanaethau Llyfrgell Canolog y ddinas.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2015