Pryder am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg mewn carchardai

Carchar
Image caption Mae pedwar carchar yng Nghymru, yn ogystal â chynlluniau i adeiladu carchar newydd yn Wrecsam

Mae yna bryder y gallai toriadau i gyllidebau effeithio ar wasanaethau Cymraeg mewn carchardai.

Mae'r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi dweud wrth raglen y Y Post Cyntaf BBC Cymru fod angen sicrhau bod yna ddarpariaeth addas i'r rheini sydd dan glo dros y ffin.

Daw'r rhybudd wrth i aelodau seneddol gwrdd yng Nghaerdydd i drafod y ddarpariaeth i droseddwyr Cymraeg eu hiaith.

Fe fydd aelodau o Bwyllgor Materion Cymreig yn clywed tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith ymhlith eraill.

Darpariaeth

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod yna ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg ym mhob carchar yng Nghymru a Lloegr - gan gynnwys y gallu i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu.

Mae yna bedwar carchar yng Nghymru, yn ogystal â chynlluniau i adeiladu carchar newydd yn Wrecsam fydd yn dal hyd at ddwy fil o garcharorion.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ymchwiliad i garchardai yng Nghymru ac yn cynnal sesiwn i hel tystiolaeth ar brofiad troseddwyr Cymraeg eu hiaith.

Yn ôl y Prif Arolygwr Carchardai mae yna enghreifftiau da o wasanaethau Cymraeg o fewn carchardai Cymru er bod yna le i wella.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wnaeth dreulio cyfnod yn y carchar yn 2012, wrth raglen y Post Cyntaf: "O'n i yn Carchar Caerdydd lle doedd dim darpariaeth o gwbl, nac ychwaith ddealltwriaeth o'r angen i ddefnyddio'r Gymraeg ...

"O'n i'n cael fy rhegi gan swyddogion am ofyn am ffurflen Gymraeg neu wrthod arwyddo rhywbeth yn Saesneg."

Galw am archwiliad

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd, sy'n Aelod o'r Pwyllgor Cyfiawnder, yn galw am archwiliad o'r ddarpariaeth ar draws carchardai Cymru a Lloegr.

Dywedodd: "Os dan ni'n sôn am adfer pobl, hynny yw dod â nhw nôl i'r brif ffrwd o gymdeithas, mae angen gadael iddyn nhw gael cysylltiad parhaus efo'u cefndir, efo'u cartref, efo'u perthnasau.

"Rhan o hynny, wrth gwrs, yw eu bod nhw'n cael pethau maen nhw'n arfer cael adref, fel deunydd Cymraeg, ac mae hynny'n bwysig yn y broses."